This website was put together through the joint efforts of :
Ceris Gruffudd, Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth
Williams, & Arfon Gwilym.
Dyluniwyd gan H G Web Designs, Y Bala
English translations of three well known Welsh carols, with thanks
to the Learning Network of the Methodist Church in Wales
ORIGINAL WELSH CAROL
1. AR GYFER HEDDIW’R BORE
Eos Iâl (Dafydd Hughes,1794-1862)
Ar gyfer heddiw’r bore,
’n faban bach, ’n faban bach,
y ganwyd gwreiddyn Jesse,
’n faban bach;
y Cadarn ddaeth o Bosra,
y Deddfwr gynt ar Seina
yr Iawn gaed ar Galfaria,
’n faban bach, ’n faban bach,
yn sugno bron Marïa.
’n faban bach.
Caed bywiol ddŵr Eseciel
ar lin Mair, ar lin Mair,
a gwir Feseia Daniel,
ar lin Mair;
caed bachgen doeth Eseia,
’r addewid roed i Adda,
yr Alffa a’r Omega
ar lin Mair, ar lin Mair
mewn côr ym Methlem Jwda,
ar lin Mair.
Am hyn, bechadur, brysia,
fel yr wyt, fel yr wyt,
ymofyn am y noddfa
fel yr wyt;
i ti’r agorwyd ffynnon
a ylch dy glwyfau duon
fel eira gwyn yn Salmon
fel yr wyt, fel yr wyt;
gan hynny tyrd yn brydlon
fel yr wyt.
ENGLISH TRANSLATION
Translated by Tom Owen & David Fox,
Seasons of Glory, Cytûn
Today, this very morning
as a child, as a child,
is born the branch of Jesse,
as a child;
the mighty one of Bozrah,
who gave the law on Sinai,
who made the peace at Calv’ry,
is a child, is a child,
and sucks the breast of Mary,
as a child.
Ezekiel’s living waters,
on her knee, Mary’s knee,
see Daniel’s true Messiah,
on her knee;
Isaiah’s child of wisdom,
the hope to Adam given,
the Alpha and Omega
on her knee, Mary’s knee,
is found in Bethl’hem’s manger,
on her knee.
Haste, sinner, now to meet him,
as you are, as you are,
as refuge sure, now greet him
as you are;
the well of life now opened
will cleanse and make the broken
like Salmon’s snows unbroken,
therefore come, as you are
to him whose grace is spoken,
as you are.
2. O DEUED POB CRISTION
Jane Ellis (1779-1841)
O deued pob Cristion i Fethlem yr awron,
i weled mor dirion yw’n Duw;
o ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod
dragwyddol gyfamod i fyw:
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
er symud ein penyd a’n pwn;
heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd hwn!
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair
wiwlan,
daeth Duwdod mewn Baban i’r byd!
Ei ras, O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn,
a throsto ef gweithiwn i gyd.
Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
yn aelwyd gyfannedd i fyw;
ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
dan goron bydd diben ein Duw.
yn frodyr i’n gilydd, drigolion y gwledydd,
cawn rodio yn hafddydd y nef;
ein disgwyl yn Salem, i ganu yr anthem,
ddechreuwyd ym Methl’em, mae ef.
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair
wiwlan,
daeth Duwdod mewn Baban i’r byd!
Ei ras, O derbyniwn! ei haeddiant cyhoeddwn,
a throsto ef gweithiwn i gyd.
Verse 1 Translated by A.G.Prys-Jones; verse 2 by
Jonathan Jones
Come all Christians, singing, our glad praises
bringing
in thanks for the gift of God’s love;
with hearts full of yearning to Bethlehem turning,
we worship with angels above.
The Lord of Creation has given each nation
salvation from sorrow and sin;
through Jesus so Holy, now cradled so lowly,
for God found no room at the inn.
Kneel down to the Child there, and Mary so mild
there,
for Godhead by this Babe is borne;
so evil forsaking, and grace humbly taking,
proclaim we our Saviour this morn.
That Saviour so holy in stable so lowly
his peace to all nations will give.
All strife he will banish, all hatred will vanish
when by the Lord’s teachings we live.
Come, sister and brother, let’s dwell with each other
in peace in God’s kingdom of love,
and sing out the story of him, who in glory,
awaits us in heaven above.
Kneel down to the Child there, and Mary
so mild there,
for Godhead by this Babe is borne;
so evil forsaking, and grace humbly taking,
proclaim we our Saviour this morn.
3. RHOWN FOLIANT O’R MWYAF
Rhys Prichard (1579-1644)
Rhown foliant o’r mwyaf
i Dduw y Goruchaf
am roi’i Fab anwylaf
yn blentyn i Fair;
i gymryd ein natur,
a’n dyled a’n dolur,
i’n gwared o’n gwewyr anniwair.
Yn Ddyn fe ddioddefwys,
yn Dduw fe orchfygwys,
yn Geidwad fe gadwys
ein henaid rhag llid;
fe dalodd ein dyled,
adferodd ein colled,
ni chawn ni mwy glywed o’n gofid.
Fe’n gwnaeth ni, blant dynion,
yn ferched, yn feibion,
i’w Dad yn ’tifeddion
o’r deyrnas sydd fry;
i fyw yn ei feddiant,
mewn nefol ogoniant,
er mawrglod a moliant i’r Iesu.
Gwahoddwch y tlodion,
a’r clwyfus a’r cleifion,
a’r gweiniaid a’r gweddwon,
a chroeso i’ch gwledd;
o barch i’r Mesïas
a’n dwg ni i’w deyrnas,
i gadw gŵyl addas heb ddiwedd.
Translated by Delyth Wyn Davies
Give praise for the story
of God in all glory
who gave us, through Mary,
Christ Jesus his Son;
to take on our being,
our debt for wrongdoing,
and offer to us his salvation.
As Man Jesus suffered,
as God Jesus conquered,
as Saviour he purchased
our souls from death’s sting;
he paid for our error,
restored us to favour,
to bring to an end all our vexing.
He made us mere mortals,
God’s sons and his daughters,
eternal dwellers
of heaven above;
to live in his presence
in glorious brilliance,
to praise the Redeemer for his love.
Invite all the needy,
the hurt and the poorly,
the weak and the lonely
to feast and to sing;
Praise be to the Saviour
who brings us God’s favour
to worship with joy everlasting.