YSTYR Y GAIR ‘PLYGAIN’*
Daw’r gair o’r Lladin ‘pulli cantus’, sef caniad y ceiliog. Yn wreiddiol,
gwasanaeth eglwysig cynnar yn y bore oedd Plygain. Ymhen amser
daeth i olygu gwasanaeth ar fore’r Nadolig ei hun. Ar ddechrau’r
ugeinfed ganrif byddai Plygain Llanerfyl, er enghraifft, yn digwydd
am 5.00 y bore.
Ar noswyl y Nadolig byddai morynion a gweision oedd yn gweithio
ymhell i ffwrdd, yn dod adre, ac yn treulio’r oriau tan y gwasanaeth yn
gwneud cyfleth ac ymarfer y carolau.
Mae tystiolaeth o lawer rhan o’r wlad yn awgrymu y gallai’r
gwasanaethau hyn yn gynnar yn y bore fod yn bur afreolus, gan fod
rhai wedi bod wrthi yn diota ers oriau. Roedd hwn yn un rheswm
pam y daeth rhai gwasanaethau i ben. Rheswm arall efallai oedd y
straen o godi mor gynnar yn y bore!
Yn Sir Drefaldwyn yn arbennig, digwyddodd dau beth a helpodd i
ddiogelu’r Plygeiniau: eu symud yn raddol o’r bore bach i’r min nos, a
hefyd gwasgaru’r gwasanaethau dros gyfnod o wythnosau yn
hytrach nag un diwrnod. Golygai hynny fod modd i bawb gefnogi
plygeiniau eu gilydd.
* Yn Sir Drefaldwyn, ‘plygien’ yw’r ynganiad arferol, ond mewn rhai
rhannau o’r wlad - Ceredigion e.e. - y gair arferol oedd ‘pylgen’.
Beth ydy Plygain?
Gwasanaeth a gynhelir yng Nghymru o gwmpas cyfnod y
Nadolig yw’r Plygain - gwasanaeth gyda’r pwyslais ar ganu
carolau traddodiadol, yn ddigyfeiliant. Erbyn 2020 roedd tua
40 o wasanaethau plygain yn cael eu cynnal mewn gwahanol
rannau o’r wlad, dros gyfnod sy’n ymestyn o ddydd Sul cyntaf
mis Rhagfyr hyd at ddiwedd Ionawr. Cynhelir y gwasanaethau
mewn eglwysi yn ogystal â chapeli.
Mae rhai nodweddion yn perthyn i’r gwasanaeth sy’n ei
wneud yn unigryw:
1. Gall unrhyw un sy’n dymuno gymryd rhan - cyn belled â’u
bod yn parchu’r arferion a’r confensiynau.
2. Ffurf y gwasanaeth. Ar wahân i wasanaeth byr (darlleniad,
gweddi, carol gynulleidfaol) ar y dechrau, nid oes unrhyw
siarad. Daw’r carolwyr ymlaen i ganu pryd bynnag y
dymunant, yn unawdwyr, deuawdwyr, triawdau a phartïon,
bach a mawr. Nid oes unrhyw drefn arbennig wedi ei phennu
ymlaen llaw. Pan ddaw’n amlwg fod pawb sy’n dymuno wedi
canu, dyna ddiwedd y ‘rownd gyntaf’.
Fel arfer wedyn, cenir carol gynulleidfaol, cyn symud ymlaen
i’r ‘ail rownd’. Y tro hwn bydd y cantorion yn dod ymlaen i
ganu yn yr union drefn y buont yn canu yn y ‘rownd gyntaf’.
Gellir mynd ymlaen i drydedd rownd os dymunir - yn dibynnu
faint o bartïon/ unawdwyr sy’n bresennol. Mae’r gwasanaeth
yn terfynu gyda’r dynion yn canu ‘Carol y Swper’. Darperir
swper wedyn i’r cantorion yn y festri neu’r neuadd leol.
3. Mae pawb yn canu’n ddi-gyfeiliant. Un confensiwn yw na
ddylai neb ganu carol a ganwyd eisoes gan rywun arall.
Golyga hynny fod yn rhaid i bawb ddarparu stoc o garolau
ymlaen llaw.
Cadarnle’r traddodiad yw Sir Drefaldwyn a’i chyffiniau, lle ceir
rhwydwaith o wasanaethau. Yno mae’r traddodiad wedi
parhau’n ddi-dor ers cenedlaethau lawer. Y tu hwnt i’r ardal
honno, bu’r traddodiad yn mynd yn ddi-dor hefyd mewn dau
le: Capel Seion, Lloc, Sir Fflint* ac Eglwys St Rhedyw, Llanllyfni
yn Nyffryn Nantlle.
Ar un adeg roedd traddodiad y Plygain yn perthyn i bob rhan
o Gymru, ond diflannodd yr arferiad o'r rhan fwyaf o
ardaloedd. Hyd at yr 1960au a’r 1970au nid oedd gweddill
Cymru prin yn ymwybodol fod y traddodiad yn dal i fynd yn y
canolbarth. Ond yna cafodd ei ‘ailddarganfod’ gan
Amgueddfa Werin Sain Ffagan, drwy Roy Saer yn arbennig.
Cyhoeddwyd record fer (EP) a record hir (LP), gan ysgogi
diddordeb newydd yng ngweddill y wlad. Arweiniodd hynny
ymhen amser at ail-sefydlu’r traddodiad mewn rhannau eraill
o’r wlad a oedd wedi ei golli ers degawdau.
* yn anffodus bu raid cau Capel Seion, Lloc, yn dilyn y
pandemig, gan ddod â thraddodiad o 180 o flynyddoedd i
ben (cafodd ei sefydlu yn 1840).
TREFN ARFEROL Y GWASANAETH
1. Y Rhan Agoriadol
Y rheithor neu’r gweinidog yn gweddïo, yn darllen o’r
ysgrythur ac yn cyflwyno carol i’r gynulleidfa ei chanu.
Yna bydd yn cyhoeddi: “Mae'r Blygain yn awr yn agored”.
2. Y Rownd Gyntaf
Os oes plant yn cymryd rhan, neu barti’r capel/ eglwys ei
hun, yr arfer yw iddyn nhw ganu gyntaf.
Wedi hynny, fel all unrhyw barti godi o'r gynulleidfa yn ôl
eu dymuniad: nid oes unrhyw drefn yn cael ei phennu
ymlaen llaw. Os oes mwy nag un yn codi yr un pryd, rhaid
i bob parti heblaw un ildio ac aros eu tro.
Un garol a genir ar y tro bob amser.
Nid yw o bwys os oes oedi rhwng cyflwyniadau. Yn wir,
mae hynny'n ychwanegu at naws yr achlysur, ac fe all
rhuthro dorri ar y naws hwn. Cofier bob amser mai
gwasanaeth yw'r Plygain ac nid cyngerdd. Ni cheir curo
dwylo, felly.
Pan fydd saib hwy na'r cyffredin, bydd hynny’n arwydd
fod pawb sydd am gymryd rhan wedi gwneud hynny.
Mae'r 'rownd' gyntaf felly ar ben.
3. Carol Gynulleidfaol
4. Yr Ail Rownd
Bydd yr ail rownd yn dilyn yr un drefn yn union â’r gyntaf.
Os mai nifer fach o unigolion/partïon sy’n bresennol
(chwech, dyweder), yna fe ellir mynd ymlaen i drydedd
rownd. Os oes tua wyth neu fwy, yna ystyrir fel arfer fod
dwy rownd yn ddigonol.
5. Diweddglo
Ar ddiwedd yr ail (neu'r drydedd) rownd bydd y
gynulleidfa yn canu un garol arall i gloi. Mae’n
draddodiad wedyn i aelodau pob parti neu unigolyn a
gymerodd ran ddod ymlaen gyda'i gilydd i ganu Carol y
Swper. Yn Sir Drefaldwyn a'r cyffiniau, yr arfer ers cyn cof
yw mai’r dynion yn unig sy’n canu’r garol hon: mae
hynny'n rhan o'r traddodiad.
Bydd y rheithor neu’r gweinidog wedyn yn cyhoeddi’r
fendith.
6. Swper
Darperir swper ysgafn yn y festri neu'r neuadd leol (neu
weithiau mewn cartrefi lleol).
NODWEDDION A CHONFENSIYNAU
Y GWASANAETH PLYGAIN
TRADDODIADOL
Sylwer: Nid rheolau yw y rhain, dim ond arferion sydd
wedi datblygu dros gyfnod. Ni fu erioed unrhyw fudiad
na chorff canolog i osod y ddeddf i lawr, ac felly nid oes
neb yn eu plismona. Mater o gwrteisi yw eu parchu.
Agored i'r Byd
Mae'r Blygain yn agored i bawb: fe all unrhyw un gymryd
rhan.
Trefn
Nid oes rhaglen na threfn arbennig wedi ei bennu ymlaen
llaw. Yn rhan gyntaf y gwasanaeth fe gaiff pawb sy'n cymryd
rhan ddewis pryd y maent am godi i ganu (ond mae’r
rownd/rowndiau canlynol yn dilyn trefn y gyntaf; gweler 4. Yr
Ail Rownd o dan ‘Trefn Arferol’).
Digyfeiliant
Mae pawb yn canu'n ddigyfeiliant, ar wahân i organ ar gyfer y
canu cynulleidfaol, ac weithiau ar gyfer y plant lleiaf.
Partïon/unigolion
Ceir amrywiaeth o gyflwyniadau: unigolion, deuawdau,
triawdau, pedwarawdau, ac ati. Ar un adeg, eithriad oedd
parti o fwy na chwech mewn nifer, ond fe'u gwelir yn amlach
erbyn hyn. Nid yw côr yn arferol.
Trawfforch
I daro’r nodyn cyntaf, defnyddir trawfforch fel arfer.
Copi
Defnyddir copi bob amser.
Hen Garolau
Eithriadau yw carolau mewn idiom gyfoes. Clywir carolau
newydd a diweddar, ond carolau yw’r rheiny sy’n cadw at
naws ac arddull y rhai traddodiadol.
Trefniannau Cerddorol
I garolwyr, nid yw'r gair 'trefniant' yn golygu dim mwy na
gosodiad tri neu bedwar llais syml. Mewn rhai casgliadau
printiedig fe geir trefniannau mwy ‘ymdrechgar’ ond mae'n
arwyddocaol nad yw'r rheiny byth braidd yn cael eu canu. Nid
yw pob parti yn canu'r un nodau a'r un geiriau â’i gilydd –
awgrym pendant mai o'r glust y dysgwyd y carolau yn y lle
cyntaf.
Dim ailadrodd
Ni chenir unrhyw alaw na geiriau fwy nag unwaith. Golyga
hynny fod gan bawb sy'n cymryd rhan garolau wrth gefn,
rhag ofn.
Dull o ganu
Dull syml a di-rodres o ganu, gyda phwyslais ar gorfaniad
naturiol y geiriau – yr un egwyddor â chanu gwerin neu
gerdd dant.
Iaith
Yn Gymraeg y cynhelir yr holl wasanaeth.
Rhoddwyd y wefan hon ynghyd gyda chymorth Ceris Gruffudd,
Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams, ac Arfon
Gwilym.
Dyluniwyd gan H G Web Designs, Y Bala