Rhoddwyd y wefan hon ynghyd gyda chymorth Ceris Gruffudd,
Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams, ac Arfon
Gwilym.
Dyluniwyd gan H G Web Designs, Y Bala
Y GEIRIAU
Mae rhai gwahaniaethau trawiadol rhwng yr hen
garolau traddodiadol a charolau cyfoes ein dyddiau ni.
1. Eu cynnwys. Mae carolau cyfoes yn tueddu i
ganolbwyntio ar stori’r geni ei hun: y preseb, y
gwely gwair, y bugeiliaid a’r doethion; a hefyd y
tywydd! (weithiau mae hi'n rhewi, dro arall yn 'fwyn', dro
arall yn 'drymaidd'!). Ond yn yr hen garolau gosodir geni
Crist mewn cyd-destun llawer ehangach: y stori gyfan, o
ddyddiau Gardd Eden, proffwydi’r Hen Destament hyd
at y croeshoeliad.
2. Mae nhw’n cynnwys gwirioneddau’r ffydd
Gristnogol ac yn llawn cyfeiriadau diwinyddol.
Roedd cyfansoddwyr y carolau yn hyddysg yn eu
Beibl.
3. Yn aml (ond nid bob amser), mae’r penillion yn rhai hir,
weithiau yn 12 neu 15 llinell - yn debycach i
faled nag i emyn. Yn aml iawn, yr un alawon a
ddefnyddid i ganu carol a baled.
4. Eu crefft. Mae llawer ohonynt yn perthyn i’r ‘canu
rhydd cynganeddol’ sy’n gyfuniad o’r hen fesurau caeth
a’r mesurau rhydd newydd - patrymau a ddaeth yn
boblogaidd o’r 17ed ganrif ymlaen.
Enghraifft dda o hyn yw carol Jane Ellis (o’r Bala/Yr
Wyddgrug), ar fesur Duw Gadwo’r Brenin, ac yn
cynnwys chwe chynghanedd sain.
O deued pob Cristion i Fethlem yr awron
i weled mor dirion yw Duw;
O ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod
dragwyddol gyfamod i fyw:
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
er symud ein penyd a’n pwn;
Heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd hwn.
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,
daeth Duwdod mewn baban i’n byd:
Ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn,
a throsto ef gweithiwn i gyd
Y MESURAU
Defnyddir y term ‘mesur’ yn yr un ffordd yn
union ag y byddai bardd wrth gyfansoddi ar
fesur cywydd neu englyn, er enghraifft.
Templad ydyw - patrwm neu fframwaith.
Yng nghyswllt y carolau, unwaith y mae’r
geiriau wedi eu creu, yna gellir creu faint
‘fynnir o alawon gwahanol i ffitio arnynt.
Golyga hynny y gellir cael sawl carol, pob un
gyda geiriau ac alaw wahanol i’w gilydd, ond
pob un yn defnyddio’r un mesur.
Dyma enwau rhai o’r mesurau. Daw’n amlwg
ar unwaith mai alawon gwerin ydynt yn
wreiddiol, rhai ohonynt yn fesurau Cymreig a
rhai wedi eu mewnforio o Loegr a gwledydd
eraill, ond gyda’u stamp Cymreig unigryw eu
hunain ar ôl gosod geiriau Cymraeg arnynt.
Agoriad y Melinydd
Beti Brown
Difyrrwch Gwŷr Bangor
Difyrrwch Gwŷr Caernarfon
Difyrrwch Gwŷr y Gogledd
Dydd Llun y Bore
Duw Gadwo’r Brenin
Ehediad y Golomen
Ffarwel Gwŷr Aberffraw
Ffarwel Ned Puw
Glan Camlad
Gwêl yr Adeilad
Hir Oes i Fair
Hoffedd Richard Parry
Llygoden yn y Felin
Malltod Dolgellau
Mentra Gwen
Rhywbeth Arall i’w Wneuthur
Susanna
Susan Lygat-ddu
Sybylltir
Tri-Thrawiad
Trwsgwl Mawr
Y Ceiliog Gwyn
Y Ceiliog Du
Yr Hen Ddarbi
Y Mesurau - rhai enghreifftiau
GWÊL YR ADEILAD
Y dirion wawr a dorrodd
Ar ddynion y cyfododd
Haul cyfiawnder;
Ym mro a chysgod angau
Disgleiriodd ei belydrau
Mewn eglurder.
Yn awr daeth ei oleuni i lawr
Tywyllwch gorddu
A orfu chwalu
O flaen yr Iesu,
Holl lu y fagddu fawr
A ffoesant yn ddiaros
Fel nos o flaen y wawr.
Mewn llwydd, dring i’w orseddol swydd,
Mae’n dwyn plant dynion
Oedd garcharorion
O law y creulon
A’u gwneud yn rhyddion rhwydd,
Gan ddryllio, darnio’i deyrnas
A gordd ei ras o’n gwydd.
(Huw Tegai)
Y TRI THRAWIAD
Y mesur mwyaf poblogaidd ar un adeg oedd y tri
thrawiad. Roedd Rhys Prichard (Ficer Prichard),
1579-1644, yn arbennig o hoff ohono:
Rhown foliant o’r mwyaf i Dduw y Goruchaf
Am roi ‘i fab anwylaf yn blentyn i Fair
I gymryd ein natur a’n dyled a’n dolur
I’n gwared o’n gwewyr anniwair.
Y tri thrawiad hefyd oedd hoff fesur Huw
Morys, Eos Ceiriog, 1622-1709: y carolwr
Cymraeg mwyaf toreithiog erioed efallai. Mae’n
perthyn i gyfnod ychydig yn ddiweddarach na
Rhys Prichard ac yn llawer mwy cydwybodol o
ran cynnwys y gynghanedd yn y mesur:
Dewch yn galonnog at Iesu’n Pen T’wysog,
Y sawl sydd yn llwythog neu’n feichiog o fai,
Ef ddwg y ffyddloniaid o ffyrdd pechaduriaid
I gorlan ei ddefaid yn ddifai.
FFARWEL NED PUW
Wel dyma’r bore gore i gyd
Fe roed i’r byd wybodaeth
Am eni’r gwaraidd Iesu gwyn
I’n dwyn o’n syn gamsyniaeth;
Fe ddaeth ein Brenin mawr a’n Brawd
Mewn gwisg o gnawd genedig,
Rhyfeddod gweled mab Duw Nȇr
Ar fronnau pȇr forwynig;
Rhyfeddod na dderfydd yw hon yn dragywydd,
O rhoed y Dihenydd i bob dawn adenydd,
Llawenydd a gwenydd i ganu;
Nid caniad plyeginiol a’i naws yn hanesol
I’r enaid crediniol sydd gynnes ddigonol,
Ond dwyfol ddewisol wedd Iesu.
(Dafydd Ddu Eryri)
MENTRA GWEN
Ar gyfer heddiw’r bore’n
faban bach, yn faban bach
Y ganwyd gwreiddyn Jesse’n
faban bach
Y cadarn ddaeth o Bosra
Y deddfwr gynt ar Sina
Yr Iawn gaed ar Galfaria’n
faban bach, yn faban bach,
Yn sugno bron Maria’n,
faban bach
(Eos Iâl)